Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi cynnig swydd hyfforddi i Gavin Quinnell.
Fe gollodd brawd Scott a Craig Quinnell ei olwg yn ei lygaid chwith yn dilyn digwyddiad yn y gêm rhwng Llanelli a Cross Keys ar 2 Hydref.
Mae’r Scarlets eisoes wedi gwneud cwyn swyddogol i Undeb Rygbi Cymru ac mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i beth ddigwyddodd.
Ond fe allai Gavin Quinnell barhau i gyfrannu i’r gêm trwy helpu hyfforddi gyda’r rhanbarth Cymreig.
“R’yn ni mor siomedig dros Gav. Roedd o wedi datblygu’n dda ers dychwelyd o’r Eidal ac roedd ar fin gwneud y cam cyntaf i fyny i rygbi rhanbarthol,” meddai Nigel Davies wrth bapur y Daily Telegraph.
“Mae e wedi bod mor ddewr ac wedi delio gyda beth ddigwyddodd yn wych.
“Rydw i wedi siarad gydag ef ac rydw i wedi dweud bod yna nifer o gyfleoedd iddo gyda’r clwb yn ein tîm hyfforddi. Mae Gav yn bwysig iawn i ni.”
Mae Gavin Quinnell wedi ysgrifennu neges ar ei dudalen Facebook yn diolch i bawb am eu cefnogaeth.