Fe ddaeth ymgyrch tîm saith bob ochr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad i ben wrth golli yn erbyn Samoa yn rownd cyn derfynol cystadleuaeth y plât.
Fe gollodd tîm Paul John 38-12 i Samoa gyda’r gwrthwynebwyr yn sgorio chwe chais.
Ymatebodd Cymru gyda cheisiau gan Lee Rees a Gareth Davies – ceisiau cyntaf ac olaf y gêm.
Gweddill yr ymgyrch
Roedd Cymru wedi curo’r India 56-7 ddoe cyn sicrhau buddugoliaeth 38-7 yn erbyn Tonga.
Ond wedi colli i Dde Affrica yng ngêm olaf y grŵp bu’n rhaid iddynt wynebu Seland Newydd yn y rownd ganlynol.
Fe sgoriodd Cymru gyntaf gyda chais gan Ifan Evans, ac roedd tîm Paul John dal yn y gêm ar yr egwyl er eu bod nhw’n colli 7-5.
Ond fe aeth y Crysau Duon ymlaen i sgorio pedair cais arall yn yr ail hanner gyda Chymru yn ymateb gydag ail gais hwyr yn unig gan Aaron Shingler i golli 31-10.
Seland Newydd aeth ‘mlaen i ennill y fedal aur gan guro Awstralia yn y rownd derfynol. Fe ddaeth De Affrica’n drydydd ar ôl curo Lloger.