Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud bod y broses o ddatganoli pwerau i’r Cynulliad yn dyblygu gwaith ac yn costio £2 miliwn ychwanegol i’r trethdalwr bob blwyddyn.
Dywedodd John Griffiths, prif swyddog cyfreithiol y Cynulliad a’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth, bod datganoli pwerau un ar y tro o San Steffan yn creu gwaith di-angen.
Fe fyddai pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar fwy o bwerau deddfu cynradd i’r Cynulliad yn y refferendwm fis Mawrth nesaf yn datrys y broblem, meddai.
Dywedodd yng nghyfarfod wythnosol y wasg yn y Cynulliad bod adolygiad mewnol wedi dangos bod gwaith yn cael ei wneud ddwywaith a bod hynny’n gwastraffu arian trethdalwyr.
Ar hyn o bryd mae’n rhaid i’r Cynulliad basio Gorchymyn drwy’r Senedd yn Llundain er mwyn rhoi’r hawl i’r Cynulliad yng Nghaerdydd greu Mesur mewn maes penodol.
“Rydan ni wedi amcangyfrif bod y dyblygu gwaith yna yn costio £2 miliwn bob blwyddyn,” meddai John Griffiths.
“Maen lot fawr o arian ac amser.”
Wrth i’r pwysau gynyddu ar arian cyhoeddus “fe fyddai’n ddefnyddiol iawn pe bai Cymru yn gallu osgoi’r dyblygu gwaith hwnnw drwy bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm”.
“Rydym ni wedi ceisio cyflwyno deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf effeithlon bosib o dan yr amgylchiadau.
“Ond mae’r profiad wedi dangos i ni fod yna ddyblygu gwaith ac fe fyddai symud ymlaen i bwerau cynradd yn gwneud lles mawr.”