Mae problemau Nigeria yng Ngemau’r Gymanwlad yn parhau wrth i athletwr arall fethu prawf cyffuriau.

Samuel Okon, a orffennodd yn y chweched safle yn rownd derfynol 110m dros y clwydi yw’r ail athletwr o Nigeria i fethu prawf cyffuriau.

Fe ddaw’r newyddion diwrnod yn unig ar ôl i Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad ddatgelu bod enillydd medal aur 100m y menywod, Osayemi Oludamola, hefyd wedi methu prawf cyffuriau.

Fe gadarnhaodd llywydd y ffederasiwn, Mike Fennell bod methylhexanemine wedi cael ei ganfod ym mhrawf Okon fel oedd ym mhrawf Oludamola.

“Mae’ athletwr wedi cael gwybod ac fe fydd yna wrandawiad yn hwyrach heddiw,” meddai Mike Fennell.

“R’y ni’n bryderus bod nifer o achosion yn cynnwys yr un sylwedd.”