Fe fydd y cwmni dur rhyngwladol Tata yn cau busnes yn Shotton, Sir y Fflint, gan fygwth 180 o swyddi, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y cwmni y byddai busnes Living Solutions yn cau, ar ôl cael ei agor yn 2003 er mwyn gwneud adeiladau modiwlaidd ar gyfer y diwydiant adeiladu.

“Mae’n ddrwg iawn gen i ddweud ein bod ni wedi penderfynu cau Living Solutions ar ôl adolygiad cynhwysfawr o’r busnes,” meddai Andrew Black, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Tata Steel Building Systems.

“Creuwyd Living Solutions fel cynllun peilot er mwyn gweld beth oedd potensial busnes ar wahân i’n busnes craidd o greu dur.”

Ychwanegodd bod y diwydiant adeiladu yn wan ar hyn o bryd ac nad ydi Living Solutions “erioed wedi gwneud elw”.

“Mae’n amlwg yn amser anodd i’n cyd-weithwyr yn Living Solutions ac fe hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn datblygu’r busnes.”

Dywedodd Tata nad oedd y cyhoeddiad yn effeithio ar eu busnesau eraill yn Shotton, gan gynnwys Tata Steel Colors a Panels and Profiles.

Ymateb

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac fe fydden ni’n cyfarfod gyda Tata mor fuan â phosib er mwyn trafod y penderfyniad yma,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

“Mae Tata yn rhan flaenllaw o economi Cymru ac rydym ni’n gobeithio y gall y cwmni osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol a dod o hyd i waith ar gyfer y gweithwyr yma mewn rhannau eraill o’r gorfforaeth.

“Os ydi’r penderfyniad yn mynd yn ei flaen fe fydden ni’n darparu’r holl gefnogaeth bosib er mwyn helpu’r gweithwyr i ddod o hyd i waith.”

(Llun: O wefan y cwmni)