Mae’r heddlu sy’n chwilio am Rhodri Owen, 17, o Dreforgan, Caerdydd wedi dod o hyd i gorff yn y rhan yna o’r ddinas.
Cysylltodd aelod o staff cware Ffynnon Taf gyda’r heddlu toc wedi 8.30am bore ma.
Dyw’r heddlu heb adnabod y corff eto. Dydyn nhw ddim yn credu fod yr amgylchiadau yn ddrwgdybus.
Mae rhieni Rhodri wedi cael gwybod.
Does neb wedi gweld y llanc sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radyr ers iddo adael ei gartref yn Heol y Cwm, Treforgan er mwyn ymweld â cyfaill am 5pm dydd Gwener.
Rhyddhaodd ei rieni Richard a Liz Owen ddatganiad ddoe yn gofyn iddo ddod adref os oedd o’n gweld eu neges.