Mae cwmni llaeth wedi cyhoeddi bwriad i adeiladu llaethdy mwyaf Cymru ger Wrecsam.
Dywedodd cwmni Tomlinson’s Dairies eu bod nhw wedi tyfu’n rhy fawr i’w ffatri yn Mwynglawdd, Wrecsam ac y byddan nhw’n adeiladu uned newydd 70,000 troedfedd sgwâr gerllaw.
Fe fydd y ffatri newydd yn dyblu gallu cynhyrchu’r busnes i 50 miliwn o litrau o laeth bob blwyddyn, pan fydd yn cael ei hagor ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.
O fewn pum mlynedd wedyn maen nhw’n gobeithio cynyddu’r gallu cynhyrchu unwaith eto i 100 miliwn o litrau bob blwyddyn, gan greu hyd at 80 o swyddi.
Dywedodd y cwmni mai poblogrwydd llaeth o Gymru oedd wrth wraidd y cynnydd ym maint y ffatri.
“Bydd y ffatri newydd yn caniatáu i ni barhau i gael ein llaeth o Gymru a’i brosesu yng Nghymru hefyd,” meddai cyfarwyddwr y cwmni, Philip Tomlinson.
“R’yn ni’n ymroddedig i helpu’r economi leol a’r gymuned ffermio ac yn rhagweld y bydd nifer o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i dyfiant ein busnes.
“Fe fydd o hefyd yn gwmni sefydlog ar gyfer ffermwyr llaeth lleol wrth edrych at y dyfodol.”
Ychwanegodd bod y cwmni yn ystyried ehangu tu hwnt i laeth, i faes iogwrt.