Mae Cymru wedi ennill dwy fedal efydd arall wrth i fowlwyr a saethwraig brofi llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad.

Fe gipiodd y bowlwyr Anwen Butten a Hannah Smith y drydydd safle gyda buddugoliaeth yn erbyn Awstralia.

Y pâr o Loegr, Ellen Falkner ac Amy Monkhouse enillodd fedal aur y gystadleuaeth ar ôl curo HJ Ismail Nor Hashimah a Khalid Zuraini o Falaysia o 5-2.

Mae’r saethwraig, Johanne Brekke, hefyd wedi ennill medal efydd yng nghystadleuaeth saethu reiffl yn gorwedd i lawr o 50m. Jen McIntosh o’r Alban ddaeth yn gyntaf gyda Tejaswini Sawant o’r India yn ail.

Erbyn hyn mae Cymru wedi ennill 15 medal yn y gemau yn Delhi – pedwar yn llai na’r cyfanswm ym Melbourne pedair blynedd ‘nôl.