Dyw Prydain ddim yn gallu fforddio cynnydd mawr arall ym mhris tai, rhybuddiodd y gweinidog tai neithiwr.

Dywedodd Grant Shapps bod angen sefydlogrwydd yn y farchnad dai, gan ddweud y byddai yna “genhedlaeth gyfan o bobol byth yn gallu fforddio tai” pe bai prisiau yn cynyddu eto.

Roedd yn feirniadol o’r Llywodraeth Lafur blaenorol am ganiatáu i brisiau tai gynyddu dros gyfnod o ddeg mlynedd.

“Os ydych chi’n caniatáu cynnydd mawr ym mhris tai fel y gwnaeth y Blaid Lafur rhwng 1997 a 2007, fe fydd yna lanast yn y pen draw,” meddai wrth newyddion Channel 4.

“Mae er lles i bawb i gadw prisiau tai yn sefydlog yn y tymor hir, am mai’r unig ffordd o wneud yn siŵr bod tai yn fforddiadwy i genedlaethau’r dyfodol yw osgoi cynnydd mawr gwallgo’ arall mewn pris tai.

“Allwn ni ddim bwrw ymlaen fel gwlad gan gredu bod tŷ yn rhywbeth sy’n rhy gostus i bobol gyffredin.”

Mae ymchwil ar wahân yn awgrymu bod 200,000 o bobol ym Mhrydain eisiau prynu tŷ ond ddim wedi gallu gwneud dros y pedair blynedd diwethaf.