Mae ASau Plaid Cymru heddiw wedi galw ar lywodraeth y glymblaid yn San Steffan i ail-feddwl eu cynlluniau ar gyfer refferendwm ar newid i’r sustem bleidlais amgen.
Bydd y Blaid yn cynnig newidiadau i ddyddiad arfaethedig y refferendwm yn ogystal â’r cwestiwn a ofynnir wrth iddyn nhw gael eu trafod ar lawr Tŷ’r Cyffredin heddiw.
Maen nhw’n anhapus mai dyddiad arfaethedig y refferendwm yw’r un dyddiad ag Etholiad y Cynulliad, sef 5 Mai y flwyddyn nesaf.
“Does dim rheswm pam fod angen cynnal y refferendwm ar sut yr ydym yn pleidleisio yn etholiadau San Steffan mewn dull mor frysiog ac ar yr un diwrnod ag etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai AS Arfon, Hywel Williams.
“Nid yw’n iawn defnyddio etholiad oedd wedi ei drefnu eisoes ar yr un diwrnod â refferendwm ar wahân nad oes angen ei gynnal bryd hynny. Mewn gwirionedd, mae modd cynnal y refferendwm ar unrhyw adeg cyn 2015 heb wneud unrhyw wahaniaeth.
“Mae dadl y Democratiaid Rhyddfrydol am gost cynnal etholiadau ar fwy nag un dyddiad eisoes wedi ei chwalu yng Nghymru gyda’r cytundeb i gynnal y refferendwm ar bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeufis ynghynt ar Fawrth 3.
“Yn y ddadl heddiw, byddwn yn ail-adrodd ein galwad am oedi’r refferendwm ar system etholiadau San Steffan fel mai etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr unig flaenoriaeth bwysicaf i bleidleiswyr yng Nghymru fis Mai nesaf.”
Galw am fwy o ddewis
Ychwanegodd Hywel Williams na fyddai ar refferendwm i symud o’r sustem cyntaf heibio’r postyn i’r sustem bleidlais amgen yn cyflawni ryw lawer.
Galwodd am gynnwys newid i’r sustem Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar y papur pleidleisio hefyd.
“Os aiff y refferendwm ymlaen heb STV, yna, waeth beth fo’r canlyniad, ni fydd yn cael ei ystyried yn ddilys gan na fydd yn caniatáu eu gwir ddewis i lawer o bleidleiswyr,” meddai Hywel Williams.
“Mae’n fater o degwch cynnwys y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar y papur pleidleisio. Dyma’r dewis tecaf gan ei fod yn golygu fod pleidleisiau a lleisiau mwy o bobl yn cyfrif.
“Mewn gwirionedd, byddai’n chwerthinllyd peidio â chynnwys un o’r dewisiadau amlycaf.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs, wedi gwneud tro pedol ar STV, er iddynt bleidleisio drosto wyth mis yn ôl ac oedd yn bolisi iddynt yn yr Etholiad Cyffredinol, ond wedi pum mis o newidiadau polisi ar Trident a’r toriadau, rydym wedi hen arfer â’u troeon pedol bellach.”