Myfyrwraig yn Aberystwyth, Miriam James sy’n adolygu drama gomedi newydd Theatr Arad Goch…
Fel myfyrwraig, apeliodd y ddrama yma ataf o’r cychwyn cyntaf gyda’r teitl hwyliog ‘Cwrw Chips a Darlith Deg’. Profiad newydd i mi oedd gweld drama un-dyn ac felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y byddai’n gweithio. Drama gomedi yw hon am y glas-fyfyriwr –Gary Jones –o’r cymoedd sy’n wynebu chwalfa emosiynol wrth fentro o’r nyth a byw bywyd annibynnol. Wedi gadael yr ysgol, mae gan Gary Jones obeithion mawr ynglŷn â bywyd fel myfyriwr, ond mae’n cael tipyn o sioc wrth geisio ymdopi â’r her o setlo yn y Brifysgol yn ogystal â chymhlethododau bywyd adref.
Yn amlwg mewn drama un-dyn, mae’r ffocws i gyd ar yr unig gymeriad hwnnw a’i fywyd, ond cefais syndod mor dda yr oeddwn yn dod i adnabod cymeriadau eraill drwy ddynwaredu cofiadwy yr actor o’i deulu, ei ffrind gwladgarol ‘Glyn’, a rhai o ferched y coleg megis ‘Teleri, Eleri a Meleri’. Elfen ddifyr iawn o’r ddrama oedd yr amrywiaeth o acenion y cymeriadau yr oedd Gary yn eu dynwared.
Er fod Gary yn profi nifer o wahanol emosiynau wrth i ni ddilyn ei dymor cyntaf yn y coleg, nid yw’r ddrama hon yn rhy ddwys, ond yn hytrach yn llawn hiwmor ysgafn sy’n peri i ni gydymdeimlo â chymeriad lletchwith Gary Jones. Wrth i’r perfformiad ganolbwyntio ar un cymeriad, fe’m tynnwyd yn ddyfnach i’r ddrama wrth ddod i adnabod y cymeriad hwnnw, ac fel myfyrwraig fy hun, gallwn ddeall Gary a’i brofiadau er nad oeddent oll yn berthnasol i mi, diolch byth!
Roedd y set gredadwy gyda holl hanfodion bywyd myfyriwr- gwely, desg, pot noodle, poteli cwrw, a’r coffi yn ychwanegu at y ddrama, ac roedd annibendod yr ystafell yn cyd-fynd ag anhrefn bywyd Gary. O’r un ystafell fechan hon, portreadwyd yn glyfar amryw o storïau a sefyllfaoedd ei fywyd yn y Brifysgol. Mae’r ddrama’n agor gyda’r cymeriad yn hanner codi hanner syrthio allan o’i wely a’i ben i waered, yn gwisgo adenydd tylwythen deg! Ceir ambell elfen swreal sy’n ychwanegu at hiwmor y ddrama a sy’n cyfleu ei brofiadau gwallgo’.
Tyfu’n oedolyn, a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda hynny, yw thema ganolog y ddrama. Mae’r hiwmor yn y ddrama yn cael ei ddwysau gan y ffaith fod Gary yn unigolyn uchel ei gloch, ac er y ddelwedd galed, gwrol mae’n rhoi i ni, mae’r straen o setlo yn y coleg a phroblemau adref yn pwyso arno, a thrwy hyn gwelwn ochr dynerach i’w bersonoliaeth wrth iddo deimlo hiraeth am ei deulu a theimlo tosturi dros ‘Mari Monster’.
Nid drama sy’n procio na phryfocio yw hon, ond yn hytrach perfformiad sy’n rhoi gwen hapus ar wyneb y gynulleidfa, gyda’r boddhad o wybod fod Gary Jones wedi goroesi tymor cyntaf yn y coleg.