Fe fu farw’r colofnydd cyngor, Claire Rayner, yn 79 oed, yn ei chartref yn Harrow ger Llundain.

Ar ôl dechrau’n nyrs, fe ddaeth hi’n enwog yn cynnal colofn ‘agony aunt’ yn y Daily Mirror yn yr 1980au ac yn sgrifennu a darlledu am broblemau pob dydd.

Yn ôl ei theulu, roedd wedi dweud mai ei geiriau olaf fyddai, “Dywedwch wrth David Cameron os ydi o’n gwneud llanast o fy annwyl Wasanaeth Iechyd Gwladol, mi fydda’ i’n dod yn ôl i aflonyddu arno fo.”

Nyrs oedd hi ar ddechrau ei gyrfa ac roedd hi wedi ymgyrchu’n gyson tros y Gwasanaeth Iechyd yn ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod ei hun.

Roedd hi hefyd yn adnabyddus am roi cyngor plaen ynglŷn â phroblemau ym mywydau rhywiol pobol.

“Roedd hi wedi helpu cannoedd o filoedd o bobol,” meddai Des Rayner, ei gŵr a’i hasiant.

Llun: Claire Rayner (Gwifren PA)