Nid dim ond nodi pen-blwydd arbennig côr meibion mae awdur llyfr newydd, ond ychwanegu at “brinder cyffredinol” mewn llenyddiaeth yn y maes canu corawl.
Mae Eric Jones wedi ‘ysgrifennu ‘Brothers, Sing On!’, sy’n sôn am hanes Côr Meibion Pontarddulais.
Ond mae’n dweud mai nid dim ond dathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r côr oedd ei nod, ond hefyd ychwanegu at lenyddiaeth hanes canu corawl yng Nghymru.
“Yn gyntaf,” meddai, “ysgrifennais y gyfrol fel rhan o ddathlu hanner canmlwyddiant y côr yn 2010.
“Ond yn fwy na hynny, oherwydd y prinder cyffredinol o lenyddiaeth ar hanes canu corawl yng Nghymru.
“Ychydig iawn o lyfrau a gyhoeddwyd sy’n dweud stori unrhyw gôr penodol.”
Pennod yn Gymraeg
Mae’r llyfr yn y Saesneg yn bennaf, ond mae yna un bennod yn y Gymraeg.
Mae’n sôn am ddatblygiad y côr, yn ogystal â llwyddiannau eisteddfodol; teithiau tramor; darlledu ar radio a theledu a recordio albymau.
“Mae consensws ymhlith beirniaid cerddorol i Gôr Meibion Pontarddulais lwyddo i gynnal safonau aruchel dros gyfnod hir o flynyddoedd,” meddai Eric Jones, “a bod y côr, ers ei sefydlu wedi aros ymhlith y goreuon o’n corau meibion.”
Cyhoeddir ‘Brothers, Sing On! A History of Pontarddulais Male Choir (1960-2010)’ gan Y Lolfa.
Llun: O glawr y llyfr (Y Lolfa)