Fe fydd un o fandiau mwyaf cyffrous y sin roc Gymraeg yn cyhoeddi EP newydd yn fuan.
Bydd pum cân newydd gan Yr Ods ar gael ar CD ac ar y we, ac yn ôl eu label, Copa, mae’r gerddoriaeth yn cadarnhau geiriau Adam Walton, oddi ar Radio Wales, mai dyma’r “pop gorau yn y Gymraeg ers blynyddoedd.”
Rhestr y caneuon:
• Nid Teledu Oedd y Bai
• Cofio Chdi o’r Ysgol
• Paid Anghofio Paris
• Turn Around
• Y Bêl yn Rowlio
‘Caseg eira’
Yn ôl Copa, mae’r caneuon yn dangos nad ydi’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn “tîn-droi” nac yn dibynnu ar enwau fel y “Super Furrys i’n rhoi ni ar y map cerddorol.”
“Fel caseg eira o ganeuon pop anthemig, mae Yr Ods yn mynd o nerth i nerth a bydd y caneuon newydd, yn ogystal â’r rhai cyfarwydd, yn gyrru torfeydd yn wyllt.”
Yn ôl Rhys Aneurin sy’n chwarae allweddellau’r band, bydd pobl yn gallu “clywed yn glir fod yma ddatblygiad mawr ers y sengl ddiwethaf.”
Mae’n mynd “i’r cyfeiriad pop electro,” meddai.
Bydd ‘Yr Ods’ ar werth yn y siopau ar ddydd Llun 25 Hydref, yn ogystal ag yn uniongyrchol o gwmni Sain ar y we, www.sainwales.com, ac yn ddigidol trwy i-tunes.
Bydd Yr Ods yn lansio’r EP ar nos Sadwrn 16 Hydref, yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.