Mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi cyhoeddi ei detholiad diweddaraf o lenyddiaeth Gymreig y maen nhw’n mynd i fod yn ei hysbysebu i farchnadoedd dramor.
Fe fydd yr wyth llyfr yn cael eu hyrwyddo mewn ffeiriau rhyngwladol, gwyliau llenyddol, gweithdai cyfieithu ac amryw o ddigwyddiadau eraill.
Yn anarferol, yn ôl y sefydliad, mae “Silff Lyfrau 2010-2011” yn cynnwys tair cyfrol farddoniaeth, sef:
• ‘Self-Portrait as Ruth’ gan Jasmine Donahaye
• ‘Jilted City’ gan Patrick McGuinness
• ‘A Hospital Odyssey’ gan Gwyneth Lewis
Y cyfrolau ffuglen sydd wedi cael eu dewis yw:
• ‘Into Suez’ gan Stevie Davies
• ‘True Things About Me’ gan Deborah Kay Davies
• ‘Sixteen Shades of Crazy’ gan Rachel Trezise
• ‘Cyffesion Geordie Oddi Cartre’ gan Tony Bianchi
• ‘West: A Journey Through the Landscapes of Loss’ gan Jim Perrin
‘Effeithiol’
Mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi dweud eu bod nhw yn dewis nifer fechan o lyfrau i’w hysbysebu gan fod hyn yn fwy “effeithiol” wrth hysbysebu dramor.
“Tydi dewis nifer bychan o lyfrau ddim yn hawdd,” meddai Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, Dr Sioned Puw Rowlands.
“Ond mae ein hymchwil yn dangos ei bod hi’n fwy effeithiol dethol ychydig o gyhoeddiadau o’r safon uchaf wrth geisio targedu marchnadoedd tu hwnt i’r DU.
“Mae cyhoeddwyr yn derbyn llwyth o lyfrau ac rydym wedi darganfod, trwy brofiad, ein bod yn medru gwneud mwy o argraff drwy dynnu eu sylw at ddetholiad bychan sy’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth gyfoes o Gymru.
“Mae pob llyfr wedi ei ddewis oherwydd safon yr ysgrifennu a’r apêl fyddai ganddo i’r farchnad gyhoeddi ryngwladol.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael am y llyfrau ar wefan y gyfnewidfa: www.cyfnewidfalen.org