Fe gafodd 17 o bobol eu lladd mewn damwain bws yng Ngwlad Pwyl – un o’r digwyddiadau gwaetha’ o’r fath yn hanes y wlad.

Mae’n ymddangos bod y meirw i gyd yn teithio mewn bws Volswagen bach ar eu ffordd i’w gwaith tua 50 milltir i’r de o’r brifddinas Warsaw.

Gweithwyr tymhorol oedden nhw, yn mynd i gasglu ffrwythau mewn ardal sy’n enwog am ei pherllanoedd.

Fe gafodd dau arall eu hanafu yn y ddamwain pan aeth y bws yn erbyn lorri.

Llun: Map yn dangos Gwlad Pwyl (cyhoeddus)