Y cerddor reggae Morgan Elwy sydd wedi bod yn rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Fe enillodd Cân i Gymru yn 2021 gyda Bach o Hwne ac fe lansiodd ei ail albwm Dub yn y Pub eleni. Mae newydd ryddhau sengl ddwbl newydd Coroni Cariad/ Mwg Drwg. Mae hefyd yn wyddonydd ac yn gweithio ym myd y theatr yn datblygu sioe sy’n cyfuno reggae a gwyddoniaeth. Cafodd ei fagu ger Llansannan yn Sir Ddinbych ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gariad, y gantores Mared Williams…


Dw i wrth fy modd yn coginio – dyna ydy chill time fi. Pryd bynnag dw i adra [yn Sir Ddinbych] dw i jest yn joio cwcio i bawb. Mae pawb yn lyfio cael fi adra rŵan achos dw i jest yn gwneud pob math o bethau fel cyris, brisged, cyw iâr…

Un o’r atgofion cynta’ sy genna’i oedd pan o’n i yn yr ysgol feithrin a mynd i dŷ Nain bob dydd ar ôl ysgol a chael lamb chops. Oedd Nain yn byw ar fferm cyn iddi symud drws nesa i ni a byddai hi wastad yn gwneud tatws cartre’, llysiau o’r ardd a thamaid o gig, fel arfer wedi’i or-gwcio ond mewn ffordd neis!  Dw i wedi bod yn obsessed efo lamb chops ers hynny. Oedden nhw jest yn bach o trît.

Cig oen

Dw i’n un o chwech felly oedd Mam a Dad yn gorfod bod yn eitha’ economical o ran prydau bwyd. Oeddan ni’n cael lot o bethau fel cyris a cottage pie. Oedd Dad yn obsessed efo Tabasco Sauce ac yn rhoi o ar bob dim. Mae hynna yn bendant wedi dylanwadu arna’i. Dw i’n ofnadwy am roi loads o chili ar pretty much bob dim – ond nid cinio rhost!

Y broses o goginio sy’n rhoi cysur i fi. Dw i’n hoffi cymryd rhywbeth syml a’i droi’n rhywbeth blasus. Dw i wrth fy modd yn gneud pei stêc a Guinness, a chinio rhost, os oes amser. Os ydi pawb wedi cael gig noson gynt na’i ddeffro’n reit gynnar a gwneud cinio rhost i gael pawb yn barod at yr wythnos. Dw i’n hoffi arbrofi efo brisged, fel brisged efo saws barbeciw. Mae rhywbeth fel ‘na yn dod a lot o gysur.

Morgan Elwy a’i ginio dydd Sul efo’r trimins i gyd

Dw i’n hoffi gneud pethau sy’n bwydo lot o bobl. Mae’n neis cael teulu mawr a chael pawb yn eistedd rownd y bwrdd. Ac os nad oes pobl o gwmpas, mae wastad rhywun i’w fwyta fo later on.

Mae ‘na le o’r enw Mama Fay’s yn Aberystwyth sy’n gwneud stwff Jamaican traddodiadol, fel jerk chicken a reis a phys sy’n ffantastig. Dw i wedi bod yn gweithio lot yn Aber dros y ddwy flynedd ddiwetha’ efo Theatr Arad Goch a dw i wastad yn mynd yno. Maen nhw’n chwarae miwsig reggae felly mae’n lle delfrydol i fi – jerk chicken a reggae!

Mae cinio rhost wastad yn atgoffa fi o’r Gaeaf, a chael pawb rownd y bwrdd yn joio pryd mawr o fwyd. Mae arogl lamb wastad yn mynd a fi nol i dŷ Nain a Taid. Wnes i dreulio blwyddyn rhwng gorffen ysgol a mynd i’r coleg yn cael sgyrsiau hir efo Nain a Taid – ac mae’r amser yna yn rili sbeshal i fi achos oedd o jest cyn i ni golli Taid. Mae’n dod ag atgofion cynnes o fod efo nhw.

Os dw i’n cwcio i lot o bobl dw i’n meddwl mai chicken wings dw i wedi gwneud yn ddiweddar. Dw i wrth fy modd efo cyw iâr ar yr asgwrn. Dw i’n gwneud marinâd efo paprica, halen a phupur, digon o olew, oregano, garlleg, lot o sudd lemwn ac ychydig o’r croen, loads o chilis, a blendio’r cwbl efo’i gilydd ac wedyn marinadu’r cyw iâr ynddo fo. Y mwya’ ti’n marinadu’r wings, y mwya’ blasus ydyn nhw. Weithiau na’i gwcio hanner y cyw iâr o fewn yr awr a chadw’r hanner arall yn y ffrij i’w cwcio’r diwrnod wedyn ac maen nhw wastad yn amazing. Dw i’n rhoi nhw yn yr air fryer ac maen nhw’n barod mewn 20 munud. Dw i’n enjoio defnyddio’r popty fel arfer ond mai rhai pethau’n neis yn yr air fryer – mae’n gwneud nhw’n crispy.

Dw i byth yn dilyn rysáit, dw i jest yn gwneud fersiwn fy hun ohono fo. Dw i’n gwylio YouTube yn aml i gael syniadau fel y chicken wings efo marinâd peri-peri. A dw i’n gwneud tomato-based cyris yn aml iawn, ac yn trio gneud nhw o scratch.