Beth sy’n gwneud bangar o fangar? Wel, yn ôl Chris Wolsey o siop gig Prendergast, yn Hwlffordd – sydd newydd gipio’r wobr gyntaf am selsig gorau Cymru – mae’n gyfuniad o borc o’r ansawdd gorau, gofal, a’r grefft o greu’r selsigen berffaith.

Y selsig yn cael eu cynhyrchu yn siop gig Prendergast

Y sylw i bob manylyn sy’n dyrchafu selsig dda i rai gwirioneddol eithriadol, meddai Chris Wolsey sy’n rhedeg y siop gig deuluol yn Hwlffordd ynghyd â’i wraig Rachel a’u dau fab Tom a Mark.

Chris Wolsey a’i fab gyda’r beirniad Craig Holly o Hybu Cig Cymru (HCC), Cadeirydd HCC Catherine Smith ac Elwen Roberts o HCC

Mae’r gystadleuaeth ’Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2024’ yn cael ei threfnu gan Hybu Cig Cymru, ac yn dathlu’r diwydiant porc artisan Cymreig, sef diwydiant o ffermydd bychan a chynhyrchwyr arbenigol.

Mae’r teulu yn ffermio yn Sir Benfro ers bron i hanner canrif, a saith mlynedd yn ôl penderfynon nhw gymryd yr awenau mewn siop gig leol. Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae’r busnes wedi ei drawsnewid, ac mae’r teulu yn ennill gwobrau cyson am safon eu cynnyrch. Mae’r gwobrau hyn yn cynnwys cael eu henwi’n Siop Gig Orau Cymru yng Ngwobrau Siop Gig y Flwyddyn.

Selsig Merry Cherry sydd wedi ennill gwobr Selsig Nadoligaidd Gorau

Selsig Nadoligaidd Gorau

Bu llwyddiant hefyd i siop gig Prendergast mewn digwyddiad yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ar ôl iddyn nhw gipio’r wobr gyntaf am eu selsig Nadoligaidd, Merry Cherry. 

Dyma gategori newydd sy’n gwobrwyo’r Selsig Nadoligaidd Gorau.

Wrth ymateb i ennill y ddwy wobr, dywedodd Chris Wolsey: “Dw i mor falch ein bod ni wedi mynd â hi o’r diwedd! Roeddem ni ar y rhestr fer ac yn agos iawn at y brig y llynedd a’r flwyddyn cyn hynny. Mae ennill y wobr am y Selsig Nadoligaidd Gorau yn goron ar y cyfan.

Siop gig Prendergast yn Hwlffordd

“Mae pawb yn y siop wrth eu bodd.  Cyn cystadlu, bu’n rhaid i’r teulu dreialu a blasu’r selsig droeon, er mwyn cyrraedd pwynt ble’r oedden ni’n hyderus y byddai ein cwsmeriaid yn eu mwynhau. Dw i’n hoffi selsig gyda llawer iawn, iawn o borc, ac ychydig iawn o berlysiau a sbeisys, sydd wedi eu cymysgu â llaw, cyn gorchuddio’r selsig â chas naturiol. Wrth ddefnyddio cynnyrch mor arbennig â phorc wedi ei fagu’n lleol, fy nheimlad i yw y dylen ni adael i’r porc serennu gan sicrhau mai dyna yw prif flas y selsig.”

Y tîm yn siop gig Prendergast yn Hwlffordd

Ychwanegodd Chris: “Dw i’n credu bod porc Cymru yn well na phorc yr un man arall. Mae’r blas, a’r ffordd rydyn ni’n magu’r cig ar ffermydd bychan yn ein gwneud ni’n wahanol i’r ffermydd mawr sy’n ffermio’n fwy diwydiannol. Ry’n ni’n gwybod o ble mae holl gig y siop yn dod, mae’n bosib olrhain popeth yno. Ry’n ni’n gweithio’n agos â’n cwsmeriaid a’r ffermwyr i sicrhau bod y cynnyrch yn cyrraedd y safon uchaf bosib.”