Dwy fyfyrwaig o Fangor sy’n blogio am wythnos y glas…
Helo ‘na, yn enw i yw Mared a dwi’n fy ail flwyddyn ym Mangor ar hyn o bryd yn astudio Cymraeg.
Amser hyn bob blwyddyn ’ma Bangor yn troi o fod yn dref digon tawel dros yr haf, i dref yn llawn stiwdants gwyllt yn barod am wythnos wallgo’ o fynd mas, yfed a chwrdd â phobol newydd.
Ar ôl misoedd o gyffro, paratoi ac ysu i ddod yn ôl, roedd yr amser wedi cyrraedd o’r diwedd… wythnos y glas!
Roedd rhyw ddigwyddiad neu grôl wedi ‘i drefnu bob nos wythnos yma er mwyn croesawi’r glas fyfyrwyr yn iawn i Fangor. Felly nos lun roedd yn rhaid trefnu crôl y glas i bawb ddod i adnabod pawb ac i ddangos rhai o dafarndai enwog y dref.
Roedd pawb yn cwrdd yn JMJ am saith gyda’r ail ar drydedd flwyddyn yn barod gyda’u pegiau a’u ceiniogau i ddal y flwyddyn gyntaf allan a’i meddwi’n rhacs!
Felly lawr a ni i dafarndai ger y pier a gweithio ein ffordd yn ôl i Fangor ucha’ at yr enwog glôb i orffen y noson mewn steil. Sawl peint, ceiniog a pheg yn ddiweddarach, ac roedd y crôl yn mynd yn ei blaen, er bod sawl un wedi gorfod mynd gartref yn barod. Doedden nhw ddim cweit yn gallu ymdopi gyda’r ffordd Bangoraidd o yfed!
Os ydw i’n onest, dwi ddim yn cofio rhyw lawer ar ôl hyn, sydd ddim yn synida da ar ol addo ysgrifennu blog…
Ond rhaid dweud bod y croeso yn ôl i Fangor wedi bod yn arbennig ac roedd hi’n noson wych ar ddechrau’r wythnos!
Roedd sawl noson arall o sbri i edrych ymlaen atynt, fel y crol tair coes, crol has-beens, ac wrth gwrs y crol teulu! Fy unig obaith i oedd llwyddo i aros allan ar ôl 11pm flwyddyn yma…
Fy nhips i ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn ystod wythnos y glas yw – ewch yn wyllt! Dim ond unwaith ydach chi’n fresher, a gewch chi ddigon o amser i gysgu wythnos nesa!
* * *
Fy enw i yw Fflur a dwi bellach yn fy mlwyddyn olaf yma ym Mhrifysgol Bangor.
Rwy’n astudio gradd gyd-anrhydedd mewn Cymraeg a Hanes. Treuliais ddwy flynedd wych yn byw yn Neuadd Gymraeg John Morris-Jones, ac mae fy nillad i’n dal i ogleuo o’r lle.
Mae Bangor yn atgyfodi yn ystod wythnos y glas, ac yn sicr mae digonedd i’r myfyrwyr Cymraeg ei wneud yma. Mae Uneb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a’r Cymric yn trefnu digon o weithgareddau i’r glas-fyfyrwyr fel bod pawb yn adnabod ei gilydd mewn dim o amser!
Yr unig ‘dip’ fyddwn i’n gallu ei roi i’r myfyrwyr newydd yw i beidio bod ofn mynd fyny at bobl a siarad, mae yna lot o’r flwyddyn gyntaf yn mynd i deimlo union yr un peth a chi!
Roedd pawb yn gwybod fod wythnos y glas eleni am fod yn wahanol gan fod Neuadd JMJ wedi symud i safle Ffriddoedd, ond yr un oedd y drefn, ac yn dilyn traddodiad cawsom ein Crôl Teulu blynyddol ar y nos Fawrth, a dyma mewn giwironedd oedd y cyfle cyntaf gafodd y myfyrwyr newydd i wir ddod i adnabod “hen stejars” yr ail a’r drydedd flwyddyn.
Hon oedd y noson yr oedd y rhan fwyaf yn edrych ymlaen ati, ond ei hofn yn yr un modd, gan fod pawb yn cael ei gwahanu a’u gyrru i gyfeiriadau gwahanol i’w ffrindiau er mwyn cymysgu hefo’r flwyddyn gyntaf.
Roeddwn i’n lwcus iawn o gael ‘teulu’ oedd yn barod i gael lot o hwyl a gan fy mod i’n y drydedd flwyddyn, roeddwn i’n Nain ac yn ben i’r teulu ac felly’n cael penderfynu pa ddiodydd oedd pawb i yfed!
O fewn dim o amser roedd pawb yn siarad fel ein bod yn adnabod ein gilydd ers blynyddoedd, ac fe benderfynodd ein teulu ni i anwybyddu pob teulu arall (tacteg bondio!). Y gôl ar ddiwedd y crôl oedd cyrraedd yr Octagon, ond dwi’n siwr bod yna ambell i aelod o’r flwyddyn gyntaf wedi gorfod mynd adref yn fuan – yn amlwg gan eu bod wedi blino!
Roeddwn i’n falch iawn bore dydd Mercher nad oeddwn i’n un o’r glas-fyfyrwyr oedd yn gorfod codi i fynd i’r holl gyflwyniadau ac yn y blaen. Diog yw’r gair gorau i ddisgrifio fy nghyflwr mae’n debyg, ond wedi dweud hynny mi grwydrias i ganolfan hamdden Maes Glas i ffair y clybiau a’r cymdeithasau – Serendipedd.
Yn ogystal â’r stondinau roedd digon o gyfle i gael ‘freebies’. Yr oll oedd i’w wneud wedyn oedd edrych ymlaen at weddill yr wythnos , gan gychwyn hefo gig Cymraeg ym Mar Uno ar safle ffriddoedd!