Dreigiau Gwent 14 – 27 Scarlets Llanelli
Jonathan Davies oedd seren y gêm am yr ail wythnos yn olynol i’r Scarlets wrth iddyn nhw ennill oddi catref yn erbyn y Dreigiau.
Roedd yr awyrgylch yn danbaid ar Rodney Parade a’r tempo’n uchel o’r cychwyn cyntaf. Yn ystod yr wythnos roedd Nigel Davies wedi mynegi gofid ynglŷn â dylanwad y dorf ar y dyfarnwr, James Jones. Os rhywbeth fel arall oedd hi yn y munudau cyntaf wrth i Jones ddyfarnu sawl trosedd o blaid y Scarlets.
Er hynny y tîm cartref sgoriodd gyntaf gyda chic gosb Mathew Jones. Ond, dim ond rhai munudau barodd yr oruchafiaeth cyn i George North sgorio cais cyntaf i’r Scarlets.
Dechreuodd y symudiad ar y llinell hanner wrth i Stephen Jones dorri’r llinell fantais. Aeth y Scarlets trwy’r cymalau cyn lledaenu i Jonathan Davies a newidiodd gêr i guro Aled Brew cyn pasio allan i’r asgellwr ifanc o Fôn groesi yn y gornel. Ychwanegodd Stephen Jones ddau bwynt gyda’r trosiad.
Cafodd y dyfarnwr ddigon ar droseddu’r Dreigiau wedi 14 munud gan anfon Robin Sowden-Taylor i’r gell gosb. Ciciodd Jones y gic gosb hir i’w gwneud yn 3-10. Dyma’r gyntaf o sawl carden felen ar noson ffyrnig.
Scarlets yn ymestyn eu mantais
Y Scarlets oedd yn pwyso ac roedd yn anochel mai nhw fyddai’n sgorio nesaf. Daeth y gais i Jon Davies wedi 28 munud. Gwelodd Davies y bwlch 40 medr o’r llinell ac agor ei goesau i sgorio cais unigol gwych – ei chweched o’r tymor.
Roedd y Scarlets yn edrych yn hyderus a doedd hi ddim yn syndod eu gweld yn sgorio trydydd cais bum munud yn ddiweddarach.
Gwthiodd cic wych gan Jones y Dreigiau nôl i’w llinell bum medr. Roedd y pwysau’n dangos a chipiodd y Scarlets y bêl o dafliad y tîm cartref. Cadwodd yr ymwelwyr y bêl yn dynn ymysg y blaenwyr a daeth y cais i’r capten Mathew Rees gyda Jones yn trosi eto.
Roedd yn edrych fel bod y Scarlets yn mynd i redeg ffwrdd â hi ond newidiodd pethau’n ddramatig ym mhum munud olaf yr hanner. Yn gyntaf, cafodd Jon Davies ei anfon i’r cell cosbi wedi 36 munud cyn i’w gapten ymuno ag ef ddwy funud yn ddiweddarach.
Er i’r Dreigiau geisio gwneud i’w mantais o ddau ddyn ddangos daliodd y Scarlets ymlaen i’w goruchafiaeth o 3 – 24 ar yr hanner.
Dreigiau’n codi eu gêm
Roedd yn rhaid i’r Dreigiau gymryd mantais wedi’r hanner a chiciodd Mathew Jones dri phwynt wedi munud.
Cynyddodd y tîm cartref y pwysau yn y munudau nesaf ac aeth Aled Brew o fewn modfedd i sgorio wedi 46 munud. Daeth cic gosb yn syth wedyn a throsodd Jones yn rhwydd o dan y pyst.
Funudau ar ôl i Mathew Rees ddychwelyd collodd y Scarlets ddyn arall i’r cell cosbi – Tavis Knoyle y tro hwn. Cosbwyd hwy’n fuan wedyn gyda chais haeddiannol i’r Dreigiau wedi 52 munud wrth i Wil Harries groesi yn y gornel .
Gyda’r sgôr o fewn deg pwynt bellach y Dreigiau oedd yn chwarae orau o bell ffordd a pharhaodd y pwysau ar yr ymwelwyr. Er hynny, rhywsut llwyddodd y Scarlets i gadw gwŷr Gwent allan.
Dechreuodd y Scarlets ddod nôl mewn iddi yn y chwarter awr olaf gyda Jones yn cicio’n ddeallus. Cipiodd yr ymwelwyr dafliad yn 22 y Dreigiau yn dilyn un o’r ciciau hynny ac arweiniodd hynny at gic gosb a llwyddodd Stephen Jones i drosi pwyntiau cyntaf yr hanner i’r Scarlets wedi 73 munud.
Roedd y sgôr o 14 – 27 yn ddigon i’r Scarlets gipio eu trydedd buddugoliaeth o’r bron a’u rhoi ar frig Cynghrair Magners.
Llun: Seren y gêm, Jonathan Davies (o wefan y rhanbarth)