Mae llofrudd aeth ar goll o garchar agored wedi cael ei arestio, meddai’r heddlu.
Cafodd Richard Wyndham Thomas, 33, ei ddedfrydu i oes yn y carchar am fyrgleriaeth a llofruddiaeth yn 1997.
Arestiwyd ef yn ardal Caerffili de Cymru ar ôl iddo ffoi o garchar Presgoed yn Sir Fynwy dydd Mercher.
Cafodd dynes 39 oed o Gaerffili hefyd ei harestio ar ddrwgdybiaeth o roi help llaw iddo.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r cyfryngau a’r cyhoedd am eu cydweithrediad a’u cymorth wrth ddod o hyd i’r unigolyn yma,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Martyn Dew.