Mae pennaeth gwasanaethau cymdeithasol wedi ymddiheuro i bedwar plentyn ifanc oedd wedi dioddef ar law pedoffeil ar ôl i adroddiad ddatgelu nad oedden nhw wedi eu hamddiffyn yn iawn.

Daeth adolygiad achos difrifol i’r casgliad ei bod hi wedi cymryd mwy na blwyddyn i arestio David Owens ar ôl honiadau yn 2007 ei fod wedi treisio sawl plentyn.

Cafodd David Owens ei ddedfrydu i isafswm o wyth mlynedd yn Llys y Goron Abertawe y llynedd. Roedd wedi treisio merch pump oed a gorfodi dau hogyn i gael rhyw.

Dywedodd uwch swyddog o Heddlu De Cymru ei bod yn ddrwg ganddo nad oedd yr honiadau wedi eu cymryd o ddifrif ac nad oedd yn gallu esgusodi’r oedi.

Yn ôl casgliadau’r adolygiad roedd yr ymchwiliad i’r honiadau wedi bod yn rhy araf.

“Wrth gyfrannu at yr adolygiad, dywedodd y plant nad oedd eu lleisiau wedi eu clywed er eu bod nhw wedi ceisio sawl tro i ddweud wrth weithwyr beth oedd yn mynd ymlaen,” meddai’r adolygiad.

Ymddiheuro

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd Tony Clements, cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Castell-nedd Port Talbot, nad oedd neb wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i’r adolygiad.

“Os ydych chi’n edrych ar yr adolygiad does yna ddim arwydd bod unrhyw un unigolyn yn gyfrifol am y modd y cafodd y plant yma eu gadael i lawr,” meddai.

“Ar ran pawb hoffwn i ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennym ni. Heddiw rydym ni’n ymddiheuro yn ddiffuant i bob un o’r plant.

“Fe ddioddefodd y plant yma gamdriniaeth rywiol ddifrifol ac roedd yr asiantaethau oedd i fod i’w gwarchod wedi eu gadael nhw i lawr.”

Dywedodd fod y plant bellach yn saff ac yn derbyn gofal da, a bod y byrddau oedd yn gyfrifol am warchod plant wedi derbyn argymhellion yr adolygiad yn llawn.

Dywedodd fod gwelliant wedi bod mewn ymarfer ers hynny ar y rhan fwyaf o’r materion a godwyd.

“Gallaf ddweud ein bod yn gweithio’n fwy effeithiol gyda’n gilydd. Rydym yn sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol gyda’n gilydd.” meddai.

“Un o’r pethau sydd wedi dod i’r amlwg yn yr adroddiad hwn yw bod yn rhaid i ni wrando ar blant yn fwy effeithiol.”

‘Anfaddeuol’

Wrth son am yr heddlu, dywedodd yr adolygiad nad oedd swyddogion yn ymchwilio i gam-drin plant yn yr un ffordd ag y byddent i unrhyw gyhuddiad difrifol arall.

Cafwyd oedi wrth arestio a chyfweld pobl dan amheuaeth, a gwnaed trefniadau arestio dros y ffon.

“Mae’n ddrwg gen i na wnaethon ni gymryd y cyhuddiadau’n fwy o ddifrif a dydw i ddim am geisio amddiffyn yr oedi ar y pryd,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Matt Jukes

“Mae’n anfaddeuol a fyddwn ni ddim yn cael oedi fel hyn nawr neu yn y dyfodol.

“Dw i am ei gwneud yn glir iawn mai blaenoriaethau’r cyhoedd yw’n blaenoriaethau ni ac un o flaenoriaethau pennaf y cyhoedd yw amddiffyn plant.

“Mae wir angen i ni drin y troseddau hyn o ddifrif. Mi ydym ni’n eu trin o ddifrif.”

Dywedodd nad oedd neb wedi sylweddoli pa mor beryglus oedd Owens, ac ychwanegodd: “Methwyd cydgysylltu’r wybodaeth yn yr achos hwn a chyfathrebu.”

Llun: Port Talbot (Chris Shaw) / CC BY-SA 2.0