Bydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndŵr yfory.

Fe fydd y gynhadledd yn trafod bygythiadau fel cynllun isranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig.

Ymysg y gwleidyddion sy’n cymryd rhan yn y gynhadledd Cymunedau Cymreig Cynaliadwy mae Susan Elan Jones Aelod Seneddol Llafur De Clwyd, Arweinydd Cyngor Wrecsam Aled Roberts (Democrat Rhyddfrydol), Cynghorydd Wrecsam Marc Jones (Plaid Cymru), a Jake Griffiths o’r Blaid Werdd.

Trafod

Bwriad y gynhadledd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fydd “trafod polisïau a chyfnewid syniadau” fydd yn ei dro yn arwain at greu cymunedau Cymreig a Chymraeg cynaliadwy.

“Ein bwriad yw edrych ar ddwy ardal yn benodol. Byddwn yn edrych ar effaith cynllun isranbarthol Caer-Gogledd Ddwyrain Cymru ac ardal Wrecsam a’r cyffiniau,” meddai Hywel Griffiths o’r Gymdeithas.

“Yna fe fyddwn yn edrych ar y sefyllfa yn ardal Penllyn ym Meirionnydd a ddaeth i frig y newyddion yn ddiweddar oherwydd y bwriad i gau Ysgol y Parc.”

‘Pobl’ nid ‘elw’ yw’r ‘flaenoriaeth’

“Mae creu cymunedau cynaliadwy, yn amgylcheddol, economaidd ac yn ieithyddol yn holl bwysig,” meddai Hywel Griffiths

“Nid ydym fel cymdeithas eisiau gweld y farchnad rhydd yn rheoli bywydau pobl yn ein gwlad, pobl yn hytrach nag elw dylai fod y flaenoriaeth.”

Fe ddywedodd Hywel Griffiths mai eu “gobaith” yw y bydd y trafodaethau yn “arwain at fabwysiadu polisïau goleuedig ym meysydd cynllunio, yr amgylchedd a chynaladwyedd a fydd yn gwarchod, cynnal ac adfywio ein cymunedau”.

Bydd y gynhadledd yn dechrau am 10 o’r gloch y bore Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam ddydd Sadwrn Medi 25.