Ennill oddi cartref am y tro cyntaf y tymor hwn yw’r nod i Abertawe yn Nottingham Forest ddydd Sadwrn yn ôl eu rheolwr.

Mae Brendan Rogers yn credu fod ei dîm yn nesáu at wneud hynny yn dilyn colledion agos yn Hull, Norwich a Leeds yn ddiweddar.

“Rydan ni wedi gwella bob tro yr ydan ni wedi chwarae oddi cartref eleni,” meddai Rogers wrth iddo edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Forest.

“Rydan ni wedi bod yn perfformio’n dda oddi cartref a does dim angen newid llawer, dim ond ambell beth bach, a byddwn ni’n cael y canlyniad yr ydan ni eisiau.”

Cysur cartref

Mae Abertawe’n chwech yn y gynghrair ar hyn o bryd a cysondeb y tîm yn Stadiwm Liberty sy’n gyfrifol am hynny.

Maen nhw wedi ennill pedair gêm gartref yn olynol yn erbyn Preston, Burnley, Coventry a Scunthorpe, ond byddan nhw ar dân i sicrhau eu buddugoliaeth i ffwrdd o’r Liberty yfory.

Bydd Abertawe hefyd yn awyddus iawn i gael canlyniad cadarnhaol yn erbyn Nottingham Forest yn dilyn dwy golled yn eu herbyn nhw y llynedd.

Pratley’n allweddol

Bydd perfformiad y chwaraewr canol cae Darren Pratley yn ddiddorol fory yn erbyn y tîm sydd wedi bod yn ceisio ei arwyddo’n ddiweddar.

Ond, mae Brendan Rogers yn siŵr na fydd yr amgylchiadau’n effeithio ar Pratley yfory.

“Mae Darren yn broffesiynol iawn. Mae ei berfformiadau eleni’n golygu nad oes modd i unrhyw un gwestiynu ei ymrwymiad a phroffesiynoldeb.”

“Ers i mi fod yma dwi heb gael unrhyw awgrym ganddo ei fod eisiau chwarae yn unrhyw le arall”.