Mae pump o’r chwe enw ar rest fer Gwobr Dylan Thomas eleni yn wragedd.
Ac mae sylfaenydd y gystadleuaeth, yr Athro Peter Stead yn dweud ei fod o’n falch o weld cymaint o fenywod ar y rhestr ond ei fod o “wedi synnu” gan fod y rhestr hir “yn fwy cytbwys”.
“Ond beth bynnag eu rhyw,” meddai, “mae hon yn rhestr hir eithriadol o dda, sydd, yn fy marn i, yn deilwng o un o wobrau llenyddol mwya’r byd.
“Yr hyn sy’n fy nharo i eleni yw pa mor ddarllenadwy yw’r cyfrolau. Mae’r rhain yn llyfrau ardderchog, llyfrau i’w darllen a’u mwynhau gan unrhyw ddarllenydd, gan gynnwys pobol ifanc.
“Rydw i’n hyderus y byddwn ni’n gweld enillydd teilwng o Dylan Thomas yn 2010 unwaith eto.”
Mae’r wobr flynyddol o £30,000 yn agored i unrhyw un o dan 30 oed. Y dyddiad cau eleni oedd 31 Mai.
Cyhoeddir yr enillydd ar 1 Rhagfyr 2010 mewn seremoni wobrwyo yn Abertawe.
Y rhestr fer
• Caroline Bird, 23 – Watering Can (Carcanet)
• Elyse Fenton, 29 – Clamor (Cleveland State University Poetry Center)
• Eleanor Catton, 24 – The Rehearsal (Portobello Books)
• Emilie Mackie, 27 – And This is True (Sceptre)
• Karan Mahajan, 26 – Family Planning (Harper Perennial)
• Nadifa Mohamed, 28 – Black Mamba Boy (Harper Collins)
Barn y Panel
Yr Athro Kurt Heinzlman yn sôn am ‘Watering Can’ gan Caroline Bird: “Mae’r gwaith yn feistrolgar. Bardd talentog sydd ag arddull arbennig.”
Gwyneth Lewis yn sôn am ‘Clamor’ gan Elyse Fenton: “Fe’m lloriwyd gan y casgliad hwn. Mae wedi’i gyfansoddi’n hyfryd drwyddo draw ac mae’r ysgrifennu yn uchelgeisiol.”
Yr Athro Peter Stead yn sôn am ‘The Rehearsal’ gan Eleanor Catton: “Roeddwn i wrth fy modd â hwn. Mae’n gyfrol i’r genhedlaeth bresennol a dyw swyddogaeth diwylliant perfformio mewn cymdeithas gyfoes erioed wedi’i esbonio’n well.”
Yr Athro Peter Stead yn sôn am ‘Family Planning’ gan Karan Mahajan: “Mae cryn sgiliau comedi yn y fan hyn. Mae’n nofel sy’n gwneud i chi chwerthin yn uchel ac sy’n eich trochi yn ei daearyddiaeth a’i dychan.”
Natalie Moody yn sôn am ‘Black Mamba Boy’ gan Nadifa Mohamed: “Mae hon yn gyfrol bwysig sy’n haeddu cael ei darllen a’i hail-ddarllen. Mae’n adrodd stori mewn modd syfrdanol”.
Yr Athro Peter Stead yn sôn am ‘And this is true’ gan Emily Mackie: “Darn o ysgrifennu hynod o gynnil. Un o’r cyfrolau gorau i mi ei darllen am y trawma o symud i ffwrdd o reolaeth rhieni. Un o’r disgrifiadau gorau i mi ei ddarllen o fab yn dianc rhag dylanwad ei dad a ffurfio ei gysylltiadau ei hun.”