Mae un ar ddeg dyn, a gafodd eu harestio am fewnforio gwerth bron i hanner miliwn o bunnoedd o heroin i Sir Benfro yn flynyddol, wedi cael dedfryd o gyfanswm o 40 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe heddiw.
Mae’r 11, a gafodd eu harestion yn ystod ‘Ymchwiliad Picasso’ Heddlu Dyfed-Powys, wedi eu dedfrydu i rhwng 16 mis a 5 mlynedd a hanner am wahanol droseddau yn ymwneud â chyffuriau, gan gynnwys darparu gorddos marwol o heroin.
Cafodd Andrew Lowndes, 39 oed, ddedfryd o bum mlynedd a hanner, a Vincent Carter, 37 oed, dedfryd o dair blynedd a hanner. Daw’r ddau, sy’n cael eu hystyried yn arweinwyr y grŵp cyffuriau, o dref Hwlffordd.
Cafodd Jonathan James, 26 oed, sydd hefyd o Hwlffordd, ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar am ddarparu heroin a arweiniodd at orddos marwol Julian Reed, 51 oed, yn Ebrill 2010.
Cocên
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, roedd gan Lowndes a Carter sustem drefnus iawn o gludo cyffuriau, gyda Carter yn prynu cocên crac oddi wrth Greg Dalton, gwerthwr cyffuriau 28 oed o Gasnewydd, Gwent, a’i werthu ar y cyd gydag Andrew Lowndes yn Sir Benfro.
Roedd Andrew Lowndes yn caniatáu i bobl gymryd cyffuriau yn ei gartref, yn ogystal â gwerthu cyffuriau ymlaen i bobl eraill gael eu delio.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Reg Bevan o Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n “falch iawn gyda llwyddiant ‘Ymchwiliad Picasso’ ac rydyn ni’n bles gyda’r dedfrydau, sydd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau gan yr 11 amddiffynnydd”.
Mae ‘Ymchwiliad Picasso’ yn rhan o ‘Ymchwiliad Poker’ a gafodd ei lansio yn 2009 er mwyn taclo troseddau yn ymwneud â chyffuriau yn Sir Benfro.
Mae 41 o bobl bellach wedi eu harestio, gan dderbyn dros 68 mlynedd o garchar rhyngddynt, ac mae’r heddlu wedi cymryd gwerth dros £23,000 o asedau y troseddwyr.