Bydd cân sydd erioed wedi cael ei chlywed o’r blaen gan Geraint Jarman yn rhan o arlwyo rhaglen fydd yn creu portread o Gaerdydd trwy gyfrwng lleisiau a synau lleol.

Mae’r cynhyrchydd, Lowri Cooke, yn dod o ardal Pen y Lan yn y brifddinas, ac mae hi am gyflwyno’r ddinas drwy gyfrwng gwahanol iawn i’r arfer, meddai wrth Golwg360.

Awgrymodd nad yw pobol sydd yn ymweld â Chaerdydd yn achlysurol yn dueddol o weld y brifddinas yn ei chyfanrwydd, a’i bo hi eisiau cyflwyno “fy Nghaerdydd i”.

Mae ‘Diwrnod yn y Ddinas’ yn dilyn gwahanol gymeriadau sy’n byw yno ar wahanol adegau drwy gydol y dydd rhwng 6:00am a hanner nos.

(Llun: Lowri Cooke)

Ymhlith y synau, mae athro ysgol sy’n paratoi i fynd i’r gwaith yn cael ei gyflwyno, yn ogystal â rhywun sy’n cerdded ci mewn parc, sy’n dangos “llonyddwch lloerig” a sgyrsiau cerddwyr, meddai Lowri Cooke.

Clywir galwad yr Adhan (galwad ar Fwslimiaid i weddïo); synau yn y farchnad; tawelwch Eglwys Llandaf, yn ogystal â chan gan Geraint Jarman am ardal o Gaerdydd, sy’n cael ei chwarae am y tro cyntaf yn gyhoeddus.

Fe dreuliodd Lowri Cooke bron bythefnos yn recordio’r synau ar gyfer y rhaglen; dywedodd ei fod wedi bod yn “brofiad a hanner”, a diolchodd i bobol Caerdydd am eu “haelioni.”

Mae’r rhaglen yn rhan o gyfres Straeon Bob Lliw Radio Cymru, a bydd yn cael ei darlledu ddydd Sul 26 Medi am 5pm, a bydd ailddarllediad am 6pm ar y nos Fercher canlynol.