Mae erlynwyr yn Japan wedi dweud y byddan nhw’n rhyddhau capten llong bysgota o China a gafodd ei ddal ger ynysoedd sy’n cael eu hawlio gan y ddwy wlad.
Cafodd y capten ei arestio ar 8 Medi ar ôl i’w long bysgota wrthdaro â chwch gwylwyr y glannau Japan.
Mae’r môr o gwmpas yr ynysoedd yn ardal bysgota lewyrchus iawn, ac mae’r hawliau dros yr ardal wedi achosi gwrthdaro rhwng y ddwy wlad.
Mae tensiynau rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf, wrth i China alw ar Japan i ryddhau’r capten.
Maen nhw wedi bygwth gwrthod trafod gyda gweinidogion Japan.
Dywedodd erlynwyr ar ynys Ishigaki yn ne Japan, lle mae’r capten wedi bod dan glo am dros bythefnos, y bydden nhw’n ei ryddhau e’ er nad oedd hi’n glir pryd y byddai hynny’n digwydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ym Môr Dwyrain China, ger cyfres o ynysoedd o’r enw’r Diaoyu mewn Tsieinëeg, neu Senkaku mewn Japan?eg.
Mae’r ynysoedd yn cael eu rheoli gan Japan, ond mae China hefyd yn mynnu mai nhw sy’n berchen ar yr ynysoedd, ac mae cenedlaetholwyr o’r ddwy ochr yn ymgasglu yno’n aml.