Mae Dave Jones wedi galw ar ei dîm i “wneud y pethau syml yn iawn” cyn eu gêm yn erbyn Millwall yfory.
Wedi cychwyn da, mae Caerdydd wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Leicester ac Ipswich ond mae Jones yn gobeithio gweld gwell gan ei dîm yn erbyn Millwall yn Stadiwm Dinas Caerdydd fory.
“Bob tro dwi’n rhoi un ar ddeg dyn ac eilyddion allan ar y cae dwi’n disgwyl eu gweld nhw’n gwneud y pethau iawn ac yn gwneud y penderfyniadau iawn,” meddai Jones.
“Yn amlwg tydi hynny heb ddigwydd yn y ddwy gêm ddiwethaf ac mae wedi bod yn rhwystredig i bawb.
“Mae’n rhaid i ni fynd nôl i wneud y pethau syml yn iawn fel ag yr oedden ni’n gwneud cynt.”
Cerydd i Adam Matthews
Roedd llawer o’r ymateb yn dilyn gêm Ipswich wedi ei ganoli o gwmpas perfformiad cefnwr ifanc Caerdydd, Adam Matthews.
Fe gafodd y Cymro ifanc, a oedd yn cael ei gysylltu â throsglwyddiadau i Man Utd ac Arsenal y llynedd, ei lambastio’n gyhoeddus gan ei reolwr yn dilyn ei berfformiad siomedig.
MaeJones yn credu y bydd Matthews yn dysgu o’r profiad. “Efallai bod un neu ddau o bobl yn synnu o weld rheolwr yn beirniadu chwaraewr ond fel pawb arall mae’n rhaid tyfu fyny a byw yn y byd go iawn.
“ Fe wnaeth Adam ddau gamgymeriad a gostiodd goliau i ni ddydd Sadwrn, a allwch chi ddim osgoi hynny ond mae’n chwaraewr ifanc talentog ac fe fydd yn dysgu o hyn.
“Weithiau mae chwaraewr yn gwneud camgymeriadau ond mae sut mae rhywun yn ymateb yn dilyn hynny yn diffinio chwaraewr ac mae pawb yn disgwyl ymateb mawr ganddo.”
Millwall yn dîm caled
Roedd Jones yn barod iawn i bwysleisio’r bygythiad y mae Millwall yn peri i’w dîm bnawn fory.
“Maen nhw wedi gwneud yn wych ers cael eu dyrchafu o Gynghrair Un trwy’r gemau ail gyfle llynedd,” meddai.
“Maen nhw’n gryf iawn ac yn llawn ymroddiad. Fel ni, maen nhw wedi cael cwpl o ganlyniadau siomedig yn ddiweddar felly bydd y ddau dîm yn awyddus newid hynny fory.
“Ni ydy’r tîm cartref ac fe edrychwn ni i droi hynny’n fantais i ni a sicrhau’r pwyntiau llawn.”