Mae gwneud bywoliaeth yng nghefn gwlad Cymru yn mynd yn fwyfwy anodd, meddai undeb ffermwyr heddiw.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod cost rhedeg ceir a diffyg band llydan yn creu problem “anferth” i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru.
Cyfeiriodd yr Undeb at y ffaith bod un orsaf betrol yng Ngogledd Cymru bellach yn codi 127.9c am litr o ddisel – a bod 81.03c o hynny yn dreth.
“Mae pobol sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael eu cosbi,” meddai llywydd yr undeb, Gareth Vaughan.
“Mae yna ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhannau helaeth o Gymru ac felly does gan ffermwyr a phobol eraill ddim dewis ond defnyddio eu ceir eu hunain.”
Mewn llythyr at yr AS David Jones, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru, mae’r undeb yn galw am ad-daliad treth i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Mae’r sustem dreth gyfredol yn golygu bod perchnogion ceir 4×4 yn talu lot mwy o dreth ar eu cerbydau na pherchnogion cerbydau eraill,” meddai Gareth Vaughan.
“Ond dyw’r sustem ddim yn cymryd sylw o’r ffaith bod y bobol sy’n berchen ar y cerbydau yma yn eu gyrru nhw o anghenraid yn hytrach na dewis.”
Dywedodd bod y tywydd garw ddechrau’r flwyddyn yn brawf bod Awdurdodau Lleol yn rhoi blaenoriaeth i’r priffyrdd a bod angen ceir 4×4 pwerus ar bobol cefn gwlad.
Roedd diffyg band llydan yn broblem arall, medden nhw, a bod “40% o dai yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir y Fflint ddim yn gallu cael mynediad i fand eang sy’n gyflymach nag dau fegabeit yr eiliad”.
“Mae’r Cyllid Gwladol yn gofyn bod pob ffurflen dreth yn cael ei ffeilio ar-lein. Ond dydyn nhw ddim yn ystyried diffyg mynediad i fand eang mewn ardaloedd gwledig.”