Mae awdurdodau rheilffyrdd India wedi eu rhybuddio i gymryd gofal heddiw ar ôl i saith eliffant gael eu lladd gan drên cyflym.

Roedd yr eliffant yn croesi’r cledrau yng nghoedwig Banarhat yn nhalaith Gorllewin Bengal am hanner nos, nos Fercher, pan darodd trên nwyddau yr anifeiliaid.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol Jairam Ramesh nad dyma’r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd, “ond o ran maint y gyflafan, does dim byd tebyg”.

Mae o eisoes wedi ysgrifennu llythyr at benaethiaid y rheilffyrdd yn galw arnyn nhw i gymryd camau i sicrhau nad yw’r fath beth yn digwydd eto.

Mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt India yn gandryll, gan ddweud eu bod nhw wedi cwyno wrth awdurdodau’r rheilffyrdd sawl tro.

Maen nhw’n dweud iddyn nhw fynnu bod y cwmnïau yn sicrhau nad ydi trenau yn rhedeg drwy ardaloedd ble mae eliffantod yn croesi’r traciau yn ystod y nos.

Mae dwsinau o eliffantiaid wedi marw yn India yn y blynyddoedd diwethaf ar ôl cael eu taro wrth groesi cledrau sy’n aml yn rhedeg trwy barciau cenedlaethol a choedwigoedd.

Yn ôl amcangyfrif diweddar, mae tua 26,000 o eliffantod gwyllt ar ôl yn India.