Cafodd angladd y gweithiwr MI6 Gareth Wyn Williams, a gafodd ei ddarganfod yn farw yn ei fflat yng nghanol Llundain, ei gynnal heddiw.
Daethpwyd o hyd i gorff Gareth Williams yn ei ystafell ymolchi ei gartref yn Pimlico gan heddlu ar 23 Awst.
Cafodd ei angladd y dyn o’r Fali fu farw’n 31 oed ei gynnal yng Nghapel Bethel, Caergybi.
Mae rhieni Gareth Williams, Ian ac Elen, wedi gofyn am gyfraniadau er cof am y seiclwr brwd i fynd tuag at gwasanaeth achub Mynyddoedd Llanberis, Aberglaslyn ac Ogwen.
Dim esboniad eto
Mae’r Heddlu Metropolitan yn parhau i ymchwilio i’r farwolaeth “anesboniadwy.”
Roedd Gareth Williams yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i’r GCHQ yn Cheltenham, ond fe fu’n byw yn Llundain ar ôl cael secondiad i’r gwasanaeth gwybodaeth cudd.
Mae’r Heddlu Metropolitan wedi disgrifio’r ymchwiliad i’w farwolaeth fel un “cymhleth.”
Doedd profion post-mortem ddim yn gallu cadarnhau achos y farwolaeth.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod mewn bag coch North Face, wedi ei sipio a’i gloi, a’i adael mewn bath gwag yn ei ystafell ymolchi en suite.
Doedd dim arwydd fod neb wedi torri mewn i’r fflat a doedd dim wedi ei ddwyn o’r fflat, meddai swyddogion.
Yn gynharach yn y mis fe ryddhawyd lluniau CCTV o Gareth Williams gan y tîm ymchwilio, a oedd wedi eu recordio ar Awst 14 a 15 yn Llundain.