Mae Heddlu Gwent yn dal i chwilio am lofrudd sydd wedi dianc o garchar agored Presgoed, ddoe.

Mae’r Heddlu yn galw ar Wyndham Richard Thomas i gysylltu â’r heddlu er mwyn osgoi rhagor o boen meddwl i deulu ei ddioddefwr ac i’w deulu ei hun.

Credir fod gan Wyndham Thomas, sy’n 33 oed, nifer o gysylltiadau ar draws de Cymru, yn enwedig yn ardal Caerffili a Maesteg.

Mae heddlu’n ofni y gallai fod yn fygythiad i’r cyhoedd, ac maen nhw’n wedi rhoi cynllun ar waith er mwyn ei ddal.

Roedd Wyndham Richard Thomas yn un o dri o ddynion a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Christopher Williams yn 1997.

Ddoe dywedodd tad Christopher Williams, Allan Williams ei fod o’n anhapus nad oedd Heddlu Gwent wedi rhoi gwybod iddo bod y llofrudd wedi ffoi.

Roedd o wedi clywed y newyddion ar y radio, meddai.

Mae’r Heddlu Gwent yn pwysleisio na ddylai’r cyhoedd fynd yn agos at Wyndham Richard Thomas, ac i alw’r heddlu os y bydd e’n cael ei weld ar 101 neu 01633 838 111.