Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn farw wrth i’r heddlu fynd i’w arestio yn ei gartref.
Fe fuodd James Graham farw ddydd Mawrth wrth i bedwar swyddog o Heddlu Gwent fynd i’w arestio. Dyw beth ddigwyddodd ddim yn amlwg eto ond mae’n debyg bod James Graham wedi mynd yn sâl.
“Rydw i wedi penderfynu y bydd angen ymchwiliad annibynnol i farwolaeth James Graham a bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn paratoi adroddiad ar gyfer cwest y crwner,” meddai Tom Davies, Comisiynydd Cymru.
“Fe fydd yr ymchwiliad yn edrych ar amgylchiadau marwolaeth Mr Graham, gan gynnwys asesiad risg yr heddlu.”
Fe aeth yr heddlu i mewn i’r adeilad am 10am. Cafodd James Graham, 44 oed, gymorth cyntaf ac fe alwodd yr heddlu am ambiwlans.
Cyrhaeddodd parafeddygon a mynd a James Graham i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond fe fu farw.
Mae archwiliad post-mortem wedi ei gynnal ac fe fydd cwest yn digwydd cyn hir.