Mae’r Blaid Lafur wedi dewis Ken Livingstone yn ymgeisydd ar gyfer etholiad maer Llundain yn 2012, yn hytrach nag Oona King.
Cafodd Ken Livingstone ei ethol fel ymgeisydd y blaid gan 33,000 o aelodau’r Blaid Lafur ac undebau ym mhrifddinas Lloegr.
Mae hynny’n golygu y bydd Ken Livingstone, a’r Ceidwadwr Boris Johnson ,yn herio ei gilydd unwaith eto, fel yn etholiad 2008.
Mae Lembit Opik, cyn AS Maldwyn, wedi dweud y bydd o’n sefyll fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Fe fydd yr etholiad yn 2012 yn gyfle i ddweud wrth David Cameron a George Osborne nad ydan ni eisiau toriadau llym i’n gwasanaethau cyhoeddus,” meddai Ken Livingstone.
“Os ydych chi eu heisiau nhw allan, pleidleisiwch i gael gwared ar Boris yn gyntaf.”
Fe fydd enillydd etholiad 2012 yn cael y fraint o gynrychioli Llundain yn y Gemau Olympaidd, fydd yn digwydd ychydig wythnosau wedi’r etholiad.
Cefndir
Cafodd Ken Livingstone, 65 oed, ei ethol am y tro cyntaf bron i 40 mlynedd yn ôl, yn 1971, yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Lambeth.
Fe aeth yn ei flaen i wasanaethu ar Gyngor Llundain Fawr, a’i arwain o 1981, tan iddo gael ei ddiddymu gan Margaret Thatcher yn 1986.
Roedd yn Aelod Seneddol dros Brent East o 1987 tan 2000, pan gafodd ei daflu allan o’r Blaid Lafur am sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad Maer Llundain.
Yr etholiad yn 2012 fydd y pedwerydd i Ken Livingstone frwydro . Ennillodd y swydd am y tro cyntaf yn 2000 fel ymgeisydd annibynnol .
Bu’n faer ar Lundain tan 2008 pan gafodd ei faeddu gan Boris Johnson.