Mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio ag ailbrisio treth cyngor yn Lloegr yn dangos bod Cymru ar ei cholled dan lywodraeth Lafur, yn ôl Aelod Cynulliad Ceidwadol.

Dywedodd Darren Millar fod y Blaid Lafur wedi penderfynu ailbrisio treth cyngor yng Nghymru yn 2005 a bod hynny wedi “costio cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn i filoedd o bobol”.

Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Eric Pickles heddiw na fyddai bandiau treth cyngor Lloegr yn cael eu hailbrisio yn ystod y senedd yma.

Dywedodd y byddai’r penderfyniad yn arbed tua £320 bob blwyddyn i deuluoedd yn Lloegr. Roedd Llafur wedi dweud y bydden nhw’n ailbrisio treth cyngor yn y wlad petaet mewn grym, meddai.

Ymatebodd y Blaid Lafur gan ddweud bod yr honiad hwnnw’n “sinigaidd a camarweiniol” gan gyfeirio at addewid yn eu maniffesto i beidio ag ailbrisio treth cyngor o fewn y senedd nesaf.

Ond dywedodd Darren Millar bod Cymru eisoes yn dioddef yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i ailbrisio treth cyngor yma yn 2005.

“Nid yn unig mae treth cyngor wedi mwy nag dyblu ers 1997, ond mae pedwar tŷ wedi codi band treth cyngor i bob tŷ oedd wedi symud i lawr,” meddai.

“Y tlawd gafodd eu taro fwyaf caled, gyda thai ym mand A a C yn fwy tebygol o gael eu symud i fyny nac eraill.

“Fe fydd y newyddion yn rhyddhad mawr i bawb sy’n byw yn Lloegr. Ni fydd rhaid iddyn nhw baratoi ar gyfer y cynnydd mawr mewn treth cyngor a orfodwyd ar bobol Cymru.

“Gobeithio y bydd yr un addewid i beidio â chodi treth cyngor yn digwydd yng Nghymru yn y dyfodol.”