Mae Gwasg Gomer yn paratoi casgliad newydd o’r “cerddi yr ydyn ni’n eu cario yn ein calonnau”.

Un o’r cerddi sydd wedi’u henwebu ar gyfer y casgliad newydd yw ‘Menywod’ gan y bardd gwlad Abiah Roderick o Gwmtawe.

Ond beirdd mawr y ganrif ddiwetha’, TH Parry-Williams ac R. Williams Parry sydd “yn dal ar frig y rhestr,” meddai golygydd yr ail gyfrol o hoff gerddi Cymru.

“Rydyn ni’n dal i gasglu.” meddai Elinor Wyn Reynolds o Wasg Gomer. “Mae yna lot o bethau chi’n meddwl yw’r usual suspects, sy’n ddigon teg. Maen nhw’n gerddi sydd wedi treiddio i’r ymwybyddiaeth fel cenedl.

“Mae lot o gerddi ynghlwm wrth atgofion o gyfnod plentyndod, y cyfnod sy’n eich ffurfio chi. Boed os ydyn nhw o sefyll ar lwyfan y steddfod neu ddysgu ar eich cof.

“Maen nhw’n gerddi y mae pobol yn mynd nôl atyn nhw dro ar ôl tro, yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Mae pobol yn cario’r cerddi yma yn eu calonnau.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi