Lluniau sy’n creu naws a rhamant, sydd gan yr artist Eleri Mills yn rhan o’i chasgliad newydd.
Mae’r gwaith sy’n seiliedig ar Gastell Dinas Brân ger Llangollen yn cyfleu naws hynafol yr hen gestyll Cymreig.
Ond yn ôl yr artist o Ddyffryn Banw, “degawdau o ymdrechu” sy’n gyfrifol am y gwaith y mae’n ei greu heddiw.
“Dydi mwynhad ddim yn dod iddo fo,” meddai. “Mae o yn cymryd ymroddiad mawr mawr.
“Achos dw i wedi bod wrthi ers 35 mlynedd, ers ro’n i yn y coleg, ac wedi cael degawdau o ymdrechu.
“Tydi o ddim yn dod ar unwaith. Dw i wedi dal ati. Mae o yn amser hir mewn oes tydi?”
Daeth i werthfawrogi hanes, diwylliant a harddwch ei chynefin unwaith ar ôl symud nol i’w bro enedigol yn dilyn pymtheng mlynedd yn byw yn ninas Manceinion.
“Bron oedd o’n overwhelming a dweud y gwir,” meddai’r artist, sy’ nôl yn Nyffryn Banw ers chwarter canrif, a’i dwy ferch bellach yn eu hugeiniau cynnar.
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi