Mae’r artist John Rowlands wedi bod yn paentio tirluniau lliwgar o’r glannau, yn arbennig o gwmpas Aberystwyth, ers blynyddoedd.

Ond eilradd yw ffurf y bryncyn, y traeth neu’r llwybr, gan mai’r llinellau syth a’r bocsys sgwâr sy’n dal sylw, fel petai’r tirlun yn cael ei fesur dan law mathemategydd.

Ac mae ei waith yn troi yn fwyfwy haniaethol, neu abstract. Yn ôl yr artist, mae ym mhatrymau a llinellau “holl hanfod bywyd”.

“Purdeb oedd y nod,” meddai John Rowlands, a fu’n bennaeth celf Ysgol Penweddig yn Aberystwyth am bron i bymtheg mlynedd, cyn symud i Dremadog yng Ngwynedd a phaentio’n llawn amser.

“Yn lle edrych ar beth sydd ar y wyneb, trio dod i dermau â beth sydd o dan yr wyneb. Y rhain yw patrymau bywyd.”

Ond mae’n cyfaddef nad yw gwaith haniaethol yn gwerthu cystal â thirluniau traddodiadol am fod prynwyr darluniau am gael rhywbeth y maen nhw’n gallu ei adnabod a’i ddeall.

“Os nad ydyn nhw’n cael tirlun neu rywbeth Kyffinesque, dydyn nhw ddim yn edrych arno fe,” meddai John Rowlands. “Nostalgia yw e. Ond mae’r ffermwyr nawr â 4x4s, a dydyn nhw ddim yn gwisgo’r capiau yna rhagor.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi