Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed.
Daeth i’r byd yn sgil llwyddiant Catatonia, y Manic Street Preachers a’u tebyg yn y 1990au, gyda’r briff gan wleidyddion y Cynulliad i greu rhywbeth arhosol o’r ffenomenon Cŵl Cymru.
Gyda £160,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus mae’n ceisio rhoi cerddoriaeth Cymru ar y map rhyngwladol.
“Maen nhw wedi bod o fudd i gerddorion ac i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru,” meddai un o gefnogwyr brwd y sefydliad, Huw Stephens.
“Mae llwyth o dalent yma ond mae’r ochr gefn llwyfan – rheoli, hyrwyddo, yr ochor fusnes – mae wastad lle i wella hynny. Mae unrhyw sefydliad sy’n dod â phobol at ei gilydd ac yn gwneud i bethau weithio gwerth eu cefnogi.”
Er bod y Sefydliad wedi cefnogi enwau cymharol ‘fawr’ yn y byd canu poblogaidd Cymraeg, nid dyna’r unig nod, yn ôl Hefin Jones, swyddog y Sefydliad sy’n gweithio efo’r Sîn Roc Gymraeg.
“Dydan ni ddim yn gweld fod helpu rhywun enwog o reidrwydd yn golygu gwell ‘cyrhaeddiad’.
“Er ein bod wedi delio, hyrwyddo neu weithio gyda nifer o’r prif fandiau Saesneg yng Nghymru fel Lostprophets, Super Furry Animals a Manic Street Preachers, a digon agos i bob un o’r actiau Cymraeg mwyaf, mae ein gweledigaeth yn rhoi mwy o bwyslais ar dyfiant.”
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi