Mae pum aelod o un teulu wedi eu cyhuddo o greulondeb tuag at blant ar ôl cadw brawd a chwaer mewn cewyll yn eu cartref.

Cafodd tair modryb, yn ogystal â mam-gu a thad-cu, eu harestio yng Nglasgow ar ôl i’r plentyn naw mlwydd oed oedden nhw’n edrych ar ei hôl methu a dod adref o’r ysgol.

Roedd heddlu oedd yn ymchwilio i’w diflaniad wedi mynd i’r tŷ yn Cardonald a dod o hyd i grudiau babanod wedi eu troi i mewn i gewyll digon mawr er mwyn cadw’r ferch a’i brawd wyth oed dan glo.

Ymddangosodd y pump, sy’n 53, 52, 32, 32, a 18 oed, o flaen Llys Siryf Glasgow wedi eu cyhuddo o greulondeb tuag at y plant.

Maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.