Mae capel sydd hefyd yn ganolfan ar gyfer yr elusen Tearfund wedi cael ei fandaleiddio.

Yn ôl Gweinidog Gapel Cildwrn yn Llanrug, roedd difrod i’r tu mewn i’r capel, ond doedd fawr ddim wedi cael ei gymryd.

Petai pwy oedd yn gyfrifol “yn dod atom Sul nesaf i’n hoedfaon byddai’n clywed mae yn yr Efengyl ceir gwir gyfoeth y capel,” meddai’r Parch Hywel Meredydd Davies, “ac mai drwy gyfrannu i gynorthwyo eraill ceir wir ddedwyddwch a bodlonrwydd”.

Doedd yn amlwg yn “methu disgwyl” nes y penwythnos nesaf, awgrymodd y Parchedig hefyd, pryd y bydd eglwysi a chapeli yn agor eu drysau i arddangos treftadaeth Gristnogol.

Cafodd y capel a fu’n gartref i Christmas Evans ei adeiladu yn 1789 a’i addasu yn 1840. Mae wedi bod yn gartref i’r Eglwys bresennol ers 30 mlynedd.

Ychwanegodd y bydd y capel yn dechrau cyfres o gyfarfodydd ar nosweithiau Iau o 4 Hydref ymlaen, â’r teitl, ‘Ffydd Gristnogol, Darganfod Cristnogaeth.’

Ac ar y 4ydd o Hydref bydd Hywel Meredydd Davies yn gadael ar ymweliad 10 diwrnod â rhai o Eglwysi Bedyddwyr Ethiopia.