Mae gwleidydd rybuddiodd am nam diogelwch ar gyfrifiaduron y Cynulliad wedi dweud ei bod hi wedi gallu cael mynediad i ffeiliau arweinydd plaid arall.
Ddydd Mercher roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad ar ôl “gwall technolegol difrifol” yn y Cynulliad.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Torïaidd, Angela Burns, ei bod wedi dod ar draws ffeiliau cyfrifiadurol sy’n perthyn i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams.
Mae’n honni bod hyn wedi digwydd ar ddamwain, wrth iddi hi ei hun geisio arbed gwaith.
Penderfynodd beidio agor y dogfennau, ac wedi rhybuddio Kirsty Williams.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn hapus fod y broblem wedi cael ei datrys.
Roedd Angela Burns wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Comisiwn y Cynulliad yn galw am ymchwiliad i’r gwall technolegol.
Dywedodd Comisiwn y Cynulliad bod y broblem wedi cael ei datrys ar unwaith, a’u bod yn hyderus nad yw’r pleidiau gwleidyddol yn gallu gweld ffeiliau ei gilydd bellach.