Llwyddodd gwraig yn yr Unol Daleithiau i atal arth rhag gwthio’i ffordd mewn i’w thŷ, drwy ei daro ar ei ben â llysieuyn o’i gardd.

Roedd hi wedi agor drws ei thŷ ger Frenchtown, talaith Montana, am tua hanner nos er mwyn gadael ei chŵn allan.

Yn ôl adroddiadau, roedd dau o’r cŵn wedi synhwyro bod yr arth yno ac wedi rhedeg i ffwrdd, ond roedd un wedi aros efo’r wraig wrth y drws.

Y gred yw bod yr arth 200 pwys wedi bod yn bwyta afalau oddi ar goeden yn yr ardd, ac yna wedi troi ac ymosod ar y ci oedd ar ôl.

Roedd y wraig wedi rhoi cic i ben yr arth, wnaeth ymateb trwy droi arni hi, gan grafu ei choes.

Dihangodd y wraig mewn i’r tŷ a cheisio cau’r drws, ond roedd yr anifail wedi gwthio’i ben a’i ysgwydd i mewn.

Cydiodd y wraig mewn courgette, un yr oedd hi wedi ei gymryd o’r ardd yn gynharach, a tharo’r arth ar ei ben gydag o.

Penderfynodd yr arth ei bod hi’n amser ffoi.

Doedd dim angen triniaeth ar y wraig, ond fe gafodd hi chwistrelliad tetanws rhag ofn.