Bydd 177 o gyrff sy’n cael eu hariannu gan y trethdalwyr yn cael eu diddymu, yn ôl dogfen swyddogol sydd wedi cyrraedd dwylo’r wasg.
Ac fe allai’r nifer fod mor uchel a 271 os yw 94 corff arall sydd yn y fantol yn cael eu dileu hefyd.
Mae rhestr Swyddfa’r Cabinet o’r cyrff fydd yn sicr o fynd yn cynnwys yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn ag afiechydon heintus, a’r Awdurdod Ffrwythloniad Dynol.
Ond yn ogsytal a hynny fe fydd pedwar ‘cwango’ arall yn cael eu preifateiddio a 129 yn cael eu cyfuno, tra bod 94 arall – gan gynnwys y BBC World Service – mewn peryg o orfod mynd.
Does dim penderfyniad eto ynglŷn â ffawd Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth. Ond mae papur newydd y DailyTelegraph yn dyfynnu ffynonellau dienw o fewn Whitehall sy’n awgrymu bod y rhan fwyaf o’r 94 yn debygol o gael eu dileu.
Os ydi pob un o’r cyrff yn cael eu dileu fe fydd y Llywodraeth yn arbed biliynau o bunnoedd ond fe fyddai miloedd o swyddi hefyd yn cael eu colli.
Mae’r rhestr yn cynnwys ambell gwango oedd eisoes wedi cael gwybod y bydden nhw’n mynd, gan gynnwys y Comisiwn Archwilio a Chyngor Ffilmiau Prydain.
Fe fydd tua 50 o gyrff sy’n gysylltiedig gyda’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn mynd, a tua 30 o gyrff iechyd yn cael eu torri neu eu cyfuno gyda’r Adran Iechyd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Eric Pickles, fod y ddogfen sydd wedi ei rhyddhau i’r cyfryngau yn hen.
“Mae’r ddogfen braidd yn hen. Mae pethau wedi symud ymlaen.”
Ymateb Swyddfa’r Cabinet
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet bod rhoi’r ddogfen yn nwylo’r wasg yn “anghyfrifol” ac wedi arwain at “ansicrwydd” i nifer o weithwyr cyflogedig.
“D’yn ni ddim yn mynd i roi sylw ar fanylion penodol dogfen sydd wedi ei ryddhau heb awdurdod,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet.
“Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud yn eglur ei fod o eisiau gwella effeithlonrwydd. Fel rhan o hynny mae gwaith eisoes wedi dechrau er mwyn diwygio cyrff cyhoeddus.
“Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ac fe fydd yna gyhoeddiad cyn hir.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur y byddai’r toriadau “yn taro gwasanaethau pwysig” a bod y llywodraeth yn “chwarae gêm wleidyddol gyda swyddi pobol”.