Mae tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi beirniadu sylwadau gan arlywydd pwyllgor Olympaidd Awstralia.
Dywedodd John Coats na ddylai Delhi erioed wedi cael cynnal y gemau yn y lle cyntaf, ar ôl i broblemau mawr ddod i’r amlwg gydag isadeiledd a glendid y gemau.
“Y broblem ydi nad oes gan Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad ddigon o adnoddau,” meddai John Coats. “Does gyda nhw ddim yr un gallu i wylio cynnydd dinasoedd yn yr un ffordd a’r Pwyllgor Olympaidd.”
Dywedodd chef de mission Cymru, Chris Jenkins, fod y sylwadau yn anffodus a bod rhaid i bob gwlad yn y Gymanwlad wneud y gorau o’r sefyllfa.
Daw ei sylwadau wrth i un o obeithion mawr Cymru, y seiclwr Geraint Thomas, ddweud na fyddai’n teithio i Gemau’r Gymanwlad.
Dywedodd y seiclwr ei fod o eisiau canolbwyntio ar Gemau Olympaidd 2012 a bod nifer o athletwyr eraill yn “betrusgar” ynglŷn â chymryd rhan.
Daeth y cadarnhad ychydig oriau ar ôl i luniau o ystafelloedd athletwyr Cymru ymddangos ar y we, gan ddangos bod cŵn wedi bod yn cysgu ar rai o’r gwelyau.
“Dim ond unwaith bob pedair blynedd ydw i’n cael rasio dros Gymru ac roeddwn i’n edrych ymlaen,” meddai Geraint Thomas.
Ychwanegodd ei fod o’n pryderu y byddai’n “dal rywbeth”.
“Rhaid i chi feddwl am eich iechyd ac roedd o’n rhyddhad i fy nghariad a fy nheulu na fyddai’n mynd.”
Dywedodd Chris Jenkins bod Geraint Thomas yn ffefryn i ennill medal a’i fod o’n siomedig na fyddai’n cymryd rhan.