Fe wnaeth y Frenhines gais am gymhorthdal a sefydlwyd er mwyn helpu pobol oedd yn rhy dlawd i gynhesu eu cartrefi, datgelwyd heddiw.
Penderfynodd swyddogion Whitehall na fydden nhw’n caniatáu i’r Frenhines dderbyn y cymhorthdal er mwyn helpu i wresogi ei phlastai rhag ofn iddo gythruddo’r cyhoedd.
Roedd un o gynorthwywyr y Frenhines wedi ysgrifennu at adran yn Whitehall yn 2004 gan ofyn a oedd y Frenhines yn gymwys ar gyfer arian o’r gronfa arbed egni £60m.
Cwynodd bod cost biliau trydan a nwy’r Frenhines wedi dyblu i £1m yn 2004, ac nad oedd rhodd flynyddol £15m y Llywodraeth er mwyn cynnal ei phlastai yn ddigon.
Yn benodol, roedden nhw eisiau nawdd er mwyn amnewid pedwar uned gwres ac ynni ym Mhalas Buckingham a Chastell Windsor.
Daeth y dogfennau i law papur newydd The Independent drwy’r ddeddf rhyddid gwybodaeth.
Gyrrodd yr adran e-bost at y Palas yn esbonio mai ar gyfer ysgolion, ysbytai, a thai cyngor oedd y nawdd, ac mai’r nod oedd helpu teuluoedd ar incwm isel.
Ychwanegodd y swyddog y byddai’n debygol o arwain at “sylw negyddol yn y wasg” pe baen nhw’n rhoi’r arian i Balas Buckingham.
“Rydw i’n pryderu ynglŷn â’r sylw negyddol yn y wasg pe bai’r Palas yn cael nawdd yn hytrach nag, dweud, ysbyty,” meddai’r ohebiaeth.
Gwrthododd llefarydd ar ran Palas Buckingham ymateb.