Cafodd y ddynes gyntaf i gael ei dienyddio yn yr Unol Daleithiau ers mwy nag pum mlynedd ei lladd yn Virginia heddiw.
Roedd Teresa Lewis, 41, wedi trefnu i’w gwr a’i llysfab gael eu lladd fel ei bod hi’n cael $250,000 o daliad yswiriant.
Fe fu hi farw am 1.13am amser Prydain, meddai’r awdurdodau. Hi yw’r ddynes gyntaf o Virginia i gael ei dienyddio ers 1912.
Gwyliodd cefnogwyr a pherthnasau’r dioddefwyr y dienyddiad yng Nghanolfan Cywirol Greensville yn nhref Jarratt.
Dywedodd llygaid dystion bod golwg ofnus ar wyneb Teresa Lewis wrth iddyn nhw fynd a hi i gael ei dienyddio.
“Rydw i eisiau i Kathy wybod fy mod i’n ei charu hi a’i bod hi’n ddrwg iawn gen i,” meddai, gan gyfeirio at ferch ei chyn ŵr, oedd yn gwylio’r dienyddiad mewn ystafell arall.
Cefnogaeth
Roedd y dienyddiad wedi denu lot o sylw ar draws y wlad oherwydd ei rhyw, a honiadau nad oedd hi’n ddigon clyfar i fod wedi cynllunio’r llofruddiaethau.
Roedd tystiolaeth a ddaeth i’r amlwg ar ôl iddo gael ei dedfrydu yn awgrymu bod un o’r dynion laddodd ei gwr a’i llysfab wedi rhoi pwysau arni.
Yn ôl y llys roedd Teresa Lewis wedi cysgu gyda’r dynion a dweud wrthyn nhw y bydden nhw’n cael cyfran o arian y polisi yswiriant am saethu Julian Clifton Lewis Jr a’i fab Charles ym mis Hydref 2002.
Cafodd y ddau ddyn eu dedfrydu i oes yn y carchar ac fe laddodd un ohonyn nhw ei hun yn 2006.
Roedd cefnogwyr Teresa Lewis yn dweud ei bod hi wedi newid ac wedi cael tröedigaeth, tra bod eraill yn dadlau fod ganddi nam meddyliol.