Fe fydd cleifion yn cael defnyddio ffonau symudol mewn rhannau penodol o ysbytai Cymru am y tro cyntaf, cyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, na fyddai cytundebau ysbytai ar gyfer sustemau ffonau a setiau teledu mewn wardiau yn cael eu diweddaru.
Y nod yw ei gwneud hi’n rhatach i gleifion ffonio adref. Daw hyn wedi pryderon bod cleifion yn talu crocbris er mwyn defnyddio ffonau neu wylio setiau teledu sydd wrth eu gwlâu.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi dweud wrth fyrddau iechyd y dylen nhw wneud mwy er mwyn hysbysu cleifion ynglŷn â chost ariannol defnyddio’r offer.
Bydd byrddau iechyd yn cael penderfynu sut orau i gydymffurfio â’r polisi newydd heb aflonyddu ar gleifion eraill.
Fe fydd ysbytai newydd yn cael setiau teledu mewn ystafelloedd unigol, ac, wrth i fwy o ystafelloedd gael eu hailwampio, bydd setiau teledu yn cael eu hychwanegu, meddai Llywodraeth y Cynulliad.
“R’yn ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o gleifion a’u perthnasau eisiau defnyddio eu ffonau symudol er mwyn cadw mewn cysylltiad,” meddai’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart.
“Fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi mwy o ddewis i bobol ynglŷn â pha ffon maen nhw eisiau ei ddefnyddio ac fe fydd yn arbed arian i’r cleifion a’u teuluoedd.
“Bydd rhaid i gleifion fod yn ymwybodol mai lle iddyn nhw orffwys a gwella yw ysbytai ac y bydd rhaid parchu cleifion eraill wrth ddefnyddio ffonau symudol, hyd yn oed yn yr ardaloedd penodol.”