Fe fydd milwr o Abertawe yn cael ei wobrwyo am ei ddewrder wrth frwydro gwrthryfelwyr yn Afghanistan.

Mae’r wobr ‘Mentioned in Dispatches’ ar gyfer y rheini sy’n cael eu crybwyll gan yr uwch gadlywydd yn ei adroddiad swyddogol ynglŷn â’r rhyfel. Dyma’r wobr hynaf o’i fath o fewn byddin Prydain.

Roedd yr Is-gorporal Alex Jones o 2il fataliwn y Cymry Brenhinol wedi brwydro’r Taliban mewn ardal i’r de o Musa Qala yn Rhanbarth Helmand.

Roedd ei blatŵn yn patrolio drwy bentref cyfarwydd ym mis Awst pan sylwon nhw fod y strydoedd wedi mynd yn rhyfeddol o ddistaw a’r holl blant wedi diflannu i’r tai.

O fewn eiliadau roedd gwrthryfelwyr yn saethu at y platŵn, oedd yn sefyll ar dir agored.

Wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i le i guddio, cafodd Alex Jones, 25 oed, ei saethu yn ei wddf.

Er gwaethaf hynny parhaodd i frwydro a helpu’r milwyr eraill i ddianc rhag y cudd-ymosodiad. Dim ond yn ddiweddarach daeth difrifoldeb ei anaf i’r amlwg.

Er y byddai ei anaf wedi caniatáu iddo ddychwelyd i Brydain, penderfynodd Alex Jones aros gyda’i blatŵn yn rhanbarth Helmand.

Bron yn syth ar ôl iddo ddychwelyd i faes y gad cafodd y cerbyd arfog yr oedd o ynddi ei tharo gan ffrwydryn ac yna dechreuodd gwrthryfelwyr saethu tuag atynt.

Er gwaetha’r bygythiad, gadawodd Alex Jones y cerbyd er mwyn darparu gofal meddygol ar gyfer y gyrrwr oedd wedi ei anafu gan y ffrwydryn.

“Er iddo gael ei saethu yn ei wddf, fe barhaodd yr Is-Gorporal Jones i gyfarwyddo ei dim yn ystod brwydr arbennig o ffyrnig gyda’r Taliban,” meddai’r fyddin.

“Fe aeth yn ei flaen i’w roi ei hun mewn sefyllfa beryg ar sawl achlysur arall, gan gynnwys digwyddiad pan gafodd ei gerbyd arfog Warrior ei ffrwydro.

“Mae o wedi dangos dewrder anhunanol, proffesiynoldeb ac wedi rhoi bywydau ei gyd filwyr o flaen ei fywyd ei hun.”

‘Balch’

Ymunodd yr Is- gorporal Alex Jones, a aeth i Ysgol Gyfun Penlan Abertawe, â’r fyddin yn 2003.

“Rydw i’n falch iawn o gael derbyn yr anrhydedd yma,” meddai.

“Ges i fy anafu mewn brwydr ac fe wnaethon nhw ddweud y gallen i fynd adref ond roeddwn i’n teimlo’n iawn. Roeddwn i eisiau mynd yn ôl at fy ffrindiau.”